Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 20 Ionawr 2022
Amser:
09.15 -
15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12573
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Carolyn Thomas AS (yn lle Joyce Watson AS) |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Steve Vincent, Llywodraeth Cymru Syr David Henshaw, Cyfoeth Naturiol Cymru Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol Cymru Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Pe bai'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor eisoes wedi cytuno y byddai Delyth Jewell AS yn cadeirio dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS, a dirprwyodd Carolyn Thomas AS ar ei rhan.
1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiadau o fuddiannau perthnasol gan Jenny Rathbone AS a Carolyn Thomas AS.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - sesiwn 1
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022–23.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - sesiwn 2
3.1 Parhaodd y Pwyllgor â’i waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022–23.
4 Gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr David Henshaw, Clare Pillman a Ceri Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.1 Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
5.2 Cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol
5.3 Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 a gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru
5.4 Eitemau plastig untro
5.5 Rheoli'r amgylchedd morol
5.6 Gollyngiadau carthion
5.7 Fframweithiau Cyffredin - Sylweddau Ymbelydrol
5.8 Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru
5.9 Y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
5.10Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
5.11Cymru'r Dyfodol: Cynllun cenedlaethol 2040
5.12Rheoliadau Plaladdwyr (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2022
5.13Rheoliadau Rhestrau Gwledig Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
5.14Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
5.15Prosiect Morlais
5.16Defnydd o'r term BAME (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
5.17Amserlen ar gyfer Busnes Pwyllgorau'r Senedd
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.
8 Gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 4
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 4.
9 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.
10 Trafod y llythyr gan y Llywydd ynghylch amserlen Busnes Pwyllgorau'r Senedd
10.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch amserlen Busnes Pwyllgorau’r Senedd.